Swyddog Marchnata
Mae marchnata’n ymwneud â deall beth mae cwsmer eisiau a hyrwyddo cynnyrch, digwyddiad neu wasanaeth. Mae hefyd yn golygu sicrhau bod y cyhoedd yn siarad am frand. Yn y sector celfyddydau, gallai’r brand fod yn theatr, amgueddfa, oriel gelf neu brosiect celfyddydau cymunedol.

This article is also available in English / Mae’r erthygl hon hefyd ar gael yn Saesneg
Sut fath o swydd yw hon?
Mae swyddog marchnata da yn gallu penderfynu pwy yw’r gynulleidfa darged. Weithiau bydd angen gwneud gwaith ymchwil er mwyn penderfynu. Yna, bydd yn gweithio i sicrhau bod y gynulleidfa hon yn ymwybodol o'r ddrama, arddangosfa neu ddigwyddiad, a’i bod eisiau gwybod mwy amdano – hyd yn oed cyn i’r tocynnau fynd ar werth.
Pan fyddwch yn gwybod beth rydych eisiau ei ddweud, ac wrth bwy, y dasg nesaf yw lledaenu’r neges ym mhob ffordd bosib: hysbysebu, posteri, ymgyrch bostio, y rhyngrwyd, y cyfryngau cymdeithasol, gweithgareddau hyrwyddo ac yn y wasg.
Mae swyddog marchnata da yn gallu penderfynu pwy yw’r gynulleidfa darged.
Mae marchnata’n faes eang a gall gynnwys cysylltiadau cyhoeddus, trefnu digwyddiadau a chodi arian. Mewn sefydliad mawr, bydd rolau ar wahân i ddelio â phob un o'r rhain.
Mae cysylltiadau cyhoeddus yn ymwneud â sicrhau perthynas dda rhwng sefydliad a’r cyhoedd. Gall hyn gynnwys gweithio gyda’r cyfryngau i gyflwyno delwedd benodol neu drefnu digwyddiadau sy’n arddangos yr ochr o’r sefydliad rydych am i bobl ei gweld.
Mae rhai swyddogion marchnata’n delio ag agweddau codi arian neu sicrhau nawdd gan sefydliadau mawr.
Pa sgiliau sydd eu hangen?
Mae’n helpu os oes gennych:
- sgiliau cyfathrebu da – i ysgrifennu darnau ar gyfer pamffledi, taflenni a gwefannau, ac er mwyn trefnu digwyddiadau
- sgiliau trefnu a chynllunio • ymwybyddiaeth o dechnegau marchnata digidol, yn enwedig ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
- sgiliau creadigol er mwyn llunio deunyddiau marchnata a meddwl am ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfaoedd
- diddordeb mawr yn y celfyddydau a’r sefydliad rydych yn ei hyrwyddo.
Sut mae cychwyn gyrfa mewn marchnata?
Nid oes llwybr gyrfa penodol ar gyfer marchnata. Yn yr ysgol/coleg, bydd pynciau megis Saesneg/Cymraeg, TG, astudiaethau busnes ac astudiaethau’r cyfryngau yn eich helpu i ddatblygu rhai o’r sgiliau angenrheidiol.
Adeiladwch ar eich profiad drwy wirfoddoli mewn theatr, canolfan gelfyddydau neu ŵyl leol, a chymerwch ran mewn digwyddiadau celfyddydol lleol i weld sut maent yn cael eu marchnata. Gall ysgrifennu blog neu gynnwys gwefan fod o ddefnydd.
Os yw cyfathrebu ysgrifenedig yn rhan o'r gwaith marchnata, mae’n hanfodol fod gennych CV ardderchog. Dyma’ch cyfle cyntaf i ddangos i gyflogwyr sut rydych yn mynd o gwmpas marchnata rhywbeth; chi’ch hun yn yr achos hwn.
Pa gymwysterau sydd eu hangen?
Er nad yw’n hanfodol, mae gan lawer o bobl sy’n gweithio ym maes marchnata radd. Gall pynciau fel Saesneg/Cymraeg, marchnata neu’r cyfryngau fod yn ddefnyddiol. Mae rhai graddau marchnata’n cynnwys blwyddyn yn y diwydiant neu’n ennill cymwysterau marchnata proffesiynol.
Fel arall, mae prentisiaethau canolradd a phellach ar gael mewn marchnata, a phrentisiaethau pellach ac uwch yn y cyfryngau cymdeithasol a marchnata digidol. Mae’r manylion i’w cael ar wefan Gyrfa Cymru.
Efallai y bydd hi’n bosib dechrau fel cynorthwyydd marchnata. Bydd sgiliau manwerthu, gwerthu neu swyddfa yn ddefnyddiol.
Mae Sefydliad Siartredig Marchnata (CIM) yn cynnig cyrsiau marchnata. Mae’r Dystysgrif Sylfaen Lefel 3 mewn Marchnata yn addas ar gyfer rhai sydd eisiau cychwyn arni yn y maes marchnata, ac mae cymwysterau lefel 4-7 ar gael i rai sydd eisoes yn gweithio yn y diwydiant.
Beth am y cyflog?
Yn y sector celfyddydau, gall swyddog marchnata ennill £20-36,000 a gall rheolwr marchnata ennill hyd at tua £40,000. Gall pennaeth gwasanaeth ennill £40-55,000 a gall cyfarwyddwr ar y lefel uchaf ennill hyd at £100,000 y flwyddyn.