Dyma gyhoeddi, gyda thristwch mawr, fod Sgiliau Creadigol a Diwylliannol yn cau ei ddrysau.

Mae’r blynyddoedd diwethaf wedi bod yn heriol i ni ac i lawer o sefydliadau, ac nid ydym wedi gallu sicrhau’r cyllid angenrheidiol i barhau, er bod cynghorau celfyddydau ledled y DU wedi ein sicrhau bod ein gwaith yn hanfodol.

Rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi’i gyflawni yn ystod yr ugain mlynedd rydym wedi sefyll yn gadarn o blaid sector diwylliannol tecach, mwy cyfartal a blaengar. Rydym yn falch o’r ffordd rydym wedi esblygu mewn ymateb i’n hamgylchedd, gan weithio gydag un ar bymtheg Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, a phymtheg Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, Arloesi a Sgiliau.

Fel y corff sgiliau ar gyfer sector y diwydiannau diwylliannol, rydym wedi cynnal llawer o raglenni a digwyddiadau dylanwadol, wedi cynnal miloedd o sesiynau cyngor a chymorth, wedi datblygu cysylltiadau pwysig, wedi cynhyrchu gwaith ymchwil, wedi sefydlu ffyrdd newydd o wneud pethau ac, yn bwysicaf oll, rydym wedi gwrando.

Gwyddom, yn sgil y neges gwbl glir a gawsom wrth ymgynghori â sefydliadau creadigol a diwylliannol, cydweithwyr yn y byd addysg a llunwyr polisi, fod rhaid i genhadaeth Sgiliau Creadigol a Diwylliannol barhau.

Mae bylchau o ran sgiliau yn parhau i fod yn ein sector, ac mae’r gweithlu creadigol a diwylliannol yn parhau i fod y tu hwnt i gyrraedd nifer fawr o bobl. Mae’r angen yno o hyd i gynorthwyo plant a phobl ifanc i droi eu breuddwydion a doniau creadigol yn yrfaoedd creadigol. Mae’r angen yno o hyd i ailfeddwl o ddifrif am y llwybrau tuag at yrfaoedd creadigol, a chael gwared ar y dull ‘un ateb sy’n addas i bawb’ nad yw’n dod â budd i ddigon o bobl ar hyn o bryd. Mae’r angen yno o hyd i sicrhau bod yr ystod ehangaf o bobl yn gallu manteisio ar ymyriadau sgiliau i gynnal gyrfa greadigol a chyflawni eu potensial yn y diwydiannau creadigol, er mwyn creu gweithlu hynod fedrus, cynhyrchiol a chynhwysol ar gyfer y dyfodol.

Mae diwallu’r anghenion hyn yn hanfodol er mwyn tanio’r effaith gadarnhaol a gaiff y diwydiannau creadigol ar unigolion, yr amgylchedd ac enw da’r Deyrnas Unedig yn fyd-eang, fel y pwysleisiwyd yn ddiweddar yng Ngweledigaeth Sector y Diwydiannau Creadigol.

Rydym yn hynod ddiolchgar i’r rhai ohonoch ym mhob rhan o’r sector a thu hwnt sydd wedi gweithio gyda ni, wedi ein cefnogi ac wedi ymuno â ni yn ein cenhadaeth. Mawr obeithiwn na ddaw’r stori i ben yn fan hyn.